SL(5)175 - Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosgwlyddo, yng Nghymru, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, Erthygl 21 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy'n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy'n deillio o amlygiad i ymbelydredd ïoneiddio, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom.

Mae'r Rheoliadau:

·         yn gwahardd ychwanegu sylwedd ymbelydrol yn fwriadol wrth gynhyrchu bwyd anifeiliaid;

·         yn gwahardd mewnforio neu allforio unrhyw fwyd anifeiliaid y mae sylwedd ymbelydrol wedi'i ychwanegu'n fwriadol ato wrth gynhyrchu;

·         yn darparu iddi fod yn drosedd methu â chydymffurfio â'r gwaharddiadau a nodir yn y Rheoliadau; ac

·         yn cynnwys rhwymedigaethau ynghylch gorfodi'r Rheoliadau a diwygiadau technegol ynghylch monitro a gorfodi.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (Rheol Sefydlog 21.3(ii)).

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar y cyd â phwerau galluogi yn Neddf Amaethyddiaeth 1970. Mae Deddf 1972 yn rhoi disgresiwn ynghylch pa un ai'r weithdrefn negyddol ynteu'r weithdrefn gadarnhaol a ddylai fod yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, ond mae Deddf 1970 yn gwneud y weithdrefn negyddol yn ofynnol. Dewiswyd y weithdrefn negyddol, sy'n ymddangos yn briodol o ystyried:

1.     y cyfuniad o bwerau y cyfeirir atynt; a

2.     nad yw'r Rheoliadau'n cynnwys gwariant sylweddol gan y llywodraeth.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r dadansoddiad canlynol wedi'i seilio ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 18 Ionawr 2018.

 

1.     Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o'r Bil, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru o'r diwrnod ymadael ymlaen. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â'r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau (er enghraifft, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i wneud rhywbeth sy'n anghyson ag addasiadau i "ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir" a wneir gan Weinidogion y DU o dan y Bil).

2.     Mae'r Rheoliadau'n diffinio "bwyd anifeiliaid" trwy gyfeirio at ddeddfwriaeth yr UE, hy Rheoliad 178/2002 yr Undeb Ewropeaidd sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd. O dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd) bydd y Rheoliad hwnnw gan yr UE yn cael ei rewi a bydd yn ffurfio rhan o'r gyfraith a gedwir gan yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwrnod gadael yr UE. Bydd Rheoliad yr UE o fewn corff cyfraith yr UE a gedwir gan y DU, ac ni ellir ond ei ddiwygio gan Weinidogion y DU a Senedd y DU, felly bydd Gweinidogion y DU neu Senedd y DU yn gallu newid ystyr "bwyd anifeiliaid". Ni fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru na Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw bwerau i ddiwygio unrhyw elfen o Reoliad yr UE yn y modd y caiff ei weithredu yng Nghymru.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

25 Ionawr 2018